Amdanom Ni
Amdanom Ni
Mae bwyty a bar 1891 ar lawr cyntaf Theatr Pafiliwn y Rhyl, gyda golygfeydd syfrdanol o arfordir Gogledd Cymru, draw i Eryri a thu hwnt.
Mae ein Teras awyr agored yn le perffaith i ymlacio pan fo’r tywydd yn braf, gyda choctels a disglau tapas a golygfeydd godidog.
Gellir archebu ein balconi VIP ar gyfer achylsuron arbennig.
Rydym yn cynnig cyfuniad unigryw o fwyd arbennig, lleol a gwasanaeth gwych – i gyd yng nghysur ein bwyty a bar cyfoes a moethus.
P’un a hoffech ddiod ymlaciol, swper arbennig, pryd o fwyd cyn y theatr neu ginio hamddenol ar y Teras, mae gan 1891 rywbeth at ddant pawb.
Pwy Ydym Ni
Mae’r enw 1891 yn deyrnged i’r flwyddyn yr adeiladwyd y Pafiliwn cyntaf yn y dref. Bryd hynny, roedd wedi’i leoli ar y Promenâd ar ddiwedd Pier y Rhyl, ond cafodd ei ddinistrio gan dân yn 1901.
Adeiladwyd yr ail Bafiliwn ym 1908 ac fe’i disodlwyd ym 1991 gyda Theatr bresennol Pafiliwn y Rhyl. Mae’r theatr, sydd â seddi dros 1,000 yn cynnig ystod eang o gynyrchiadau gwadd, sydd wedi cynnwys Rob Brydon, Chicago, Jason Manford, Little Mix a John Bishop i enwi dim ond rhai. Rheolir y theatr a 1891 gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf.
Oriau Agor
Y Bwyty
Dydd Llun AR GAU
Dydd Mawrth AR GAU
Dydd Mercher AR GAU
Dydd Iau AR GAU
Dydd Gwener 4.30yp – hwyr (archeb bwyd olaf 8.30yh)
Dydd Sadwrn 4.30yp – hwyr (archeb bwyd olaf 8.30yh)
Dydd Sul 11.30yb – 5yh (Bwyd 12yp – 4yp)
Nosweithiau Cyngerdd 4.30yp-hwyr (archeb bwyd olaf 8.30yh)
Y Teras
Dydd Llun AR GAU
Tuesday AR GAU
Dydd Mercher 10am – 4pm (gweini bwyd tan 3pm)
Dydd Iau 10am – 4pm (gweini bwyd tan 3pm)
Dydd Gwener 10am – 8pm (gweini bwyd tan 7pm)
Dydd Sadwrn 10am – 8pm (gweini bwyd tan 7pm)
Dydd Sul 10am – 6pm (gweini bwyd tan 5pm)