Kyle Parry
Ymunwch â ni am noson acwstig gyda’r hynod boblogaidd, Kyle Parry!
🎤6ed Medi ar y Teras 1891
Gan chwarae can ar ôl can, o’ch hoff ganeuon, rhowch y DIGWYDDIAD AM DDIM hwn yn eich dyddiadur! 😁
Beth am wneud noson ohoni a chadw bwrdd ymlaen llaw
Northern Soul yn 1891
Ymunwch â ni ar:
💿 14eg o Fedi yn y Bwyty
💿16eg Tachwedd yn y Bwyty
a dawnsio’r noson i ffwrdd gyda chymysgedd o gerddoriaeth Motown, Northern Soul a Classic Soul o 8pm!
Dathlwch dymor y Nadolig gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr mewn steil ym Mwyty a Bar 1891
Mwynhewch bryd tri chwrs Nadoligaidd ac alawon parti gan ein DJ arbennig, does dim lle gwell i fod yn ysbryd yr ŵyl!
Tachwedd – 29ain, 30ain
Rhagfyr – 6ed, 7fed, 13eg, 14eg, 20fed, 21ain
1 lle AM DDIM i drefnwyr sy’n dod â pharti o 15+
£49.95 y pen *Mae angen blaendal o £10yp na ellir ei ad-dalu i sicrhau archeb. Mae angen pob blaendal erbyn 30ain Medi a taliad llawn erbyn 15fed Tachwedd.
Dathlwch ‘dolig gyda ffrindiau, teulu neu chydweithwyr ym Mwyty a Bar 1891 gyda chinio ‘dolig cartref bendigedig!
Mwynhewch bryd tri chwrs Nadoligaidd a naws hamddenol gyda cherddoriaeth gefndir nadolig ym mwyty 1891.
Perffaith ar gyfer grwpiau o ffrindiau, teulu a chydweithwyr!
Dyddiadau:
Rhagfyr – 12fed a 19fed
£39.95 y pen (oedolyn) a £15 y plentyn (os yn bwyta oddi ar y fwydlen plant) *Mae angen blaendal o £10yp na ellir ei ad-dalu i sicrhau archeb. Mae angen pob blaendal erbyn 30ain Medi a taliad llawn erbyn 15fed Tachwedd.
Croesawu’r Flwyddyn Newydd mewn steil ym Mwyty a Bar 1891
Mae Nos Galan yn amser i ddathlu, dawnsio a mwynhau!
Mwynhewch bryd dau gwrs blasus ac yna alawon parti gorau ein DJ arbennig a byrbryd canol nos.
Wrth i ni groesawu 2025, codwch wydraid am fod yn y parti Nos Galan gorau gyda’ch anwyliaid!
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01745 330000