Amdanom Ni
Bwyty a bar cyfoes a chwaethus wedi’i leoli ar lan y dŵr yn Theatr y Pafiliwn Rhyl.
Mwynhewch fwyd cartref bendigedig wedi’w goginio gyda chynnyrch lleol. Gyda choctel neu foctel wrth law tra’n edrych dros arfordir hardd Gogledd Cymru.
Gall mynychwyr sioeau a’r cyhoedd fwynhau pryd arbennig gyda ni cyn gweld sioe yn y theatr gyda’n bwydlen arbennig ar gyfer nosweithiau sioe.





Pwy Ydym Ni
Mae’r enw 1891 yn deyrnged i’r flwyddyn yr adeiladwyd y Pafiliwn cyntaf yn y dref. Bryd hynny, roedd wedi’i leoli ar y Promenâd ar ddiwedd Pier y Rhyl, ond cafodd ei ddinistrio gan dân yn 1901.
Adeiladwyd yr ail Bafiliwn ym 1908 ac fe’i disodlwyd ym 1991 gyda Theatr bresennol Pafiliwn y Rhyl. Mae’r theatr, sydd â seddi dros 1,000 yn cynnig ystod eang o gynyrchiadau gwadd, sydd wedi cynnwys Rob Brydon, Chicago, Jason Manford, Little Mix a John Bishop i enwi dim ond rhai. Rheolir y theatr a 1891 gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf.



