

Ein Tîm Digwyddiadau
Mae gennym dimau digwyddiadau, lletygarwch a thechnegol profiadol gyda blynyddoedd o arbenigedd mewn cynllunio ystod eang o ddigwyddiadau. Cyn gynted ag y cawn eich ymholiad, byddwn yn eich helpu i gynllunio’r defnydd gorau o’n gofod a’n hadnoddau, a gweithio ochr yn ochr â chi yn ystod eich digwyddiad i wneud y mwyaf o’i lwyddiant.
Ein Tîm Technegol
Rydym yn darparu pecyn cynhwysfawr o dechnoleg goleuo, taflunio a sain o’r radd flaenaf, a gallwn ddarparu ystod eang o gefnogaeth llwyfannu a thechnegol. Mae ein technegwyr mewnol cyfeillgar a thalentog yn hapus i weithio’n uniongyrchol gyda’ch tîm digwyddiad neu gefnogi’ch partner cynhyrchu dewisol.
Gwasanaethau Eraill
Mae Wi-Fi am ddim sy’n addas ar gyfer pori ac e-bostio ar gael ledled y theatr a 1891. Gellir trefnu cyflenwadau pŵer dros dro ar gyfer offer technegol fel offer sain, goleuo ac arddangos ar gais.
Hygyrchedd
Mae Theatr Pafiliwn y Rhyl yn lleoliad cwbl hygyrch, gyda mynediad lifft i bob llawr, a thoiledau hygyrch ar bob lefel, a thoiled mannau newid mwy sy’n darparu offer mwy arbenigol sy’n diwallu anghenion unigolion ag anghenion cymhleth.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Dim ond 15 munud o waith cerdded i ffwrdd yw gorsaf drenau’r Rhyl. Mae maes parcio Talu ac Arddangos wrth ymyl y theatr gyda lleoedd parcio dynodedig i bobl anabl. Mae gennym ni hefyd nifer gyfyngedig o leoedd parcio i bobl anabl y tu allan i’r theatr. Codir tâl o 8am – 11pm.





